Map o diroedd lle'r oedd y Bannock yn draddodiadol yn byw | |
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Math | llwyth |
Poblogaeth | 89 person |
Rhagflaenydd | Paiute y Gogledd |
Rhanbarth | Neilldir Indiaidd Fort Hall, Idaho |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o lwythi frodorol Gogledd America yw'r Llwyth Bannock, disgynyddion Paiute y Gogledd, yn wreiddiol, sydd a chysylltiadau diwylliannol â phobl Shoshone y Gogledd. Maent yn nosbarthiad y Basn Mawr o Frodorion Cynhenid. Ymhlith eu tiroedd traddodiadol mae gogledd Nevada, de-ddwyrain Oregon, de Idaho, a gorllewin Wyoming. Heddiw maent wedi'u cofrestru fel "Shoshone-Bannock" sy'n byw yn Neilldir Indiaidd Fort Hall, Idaho. Yng Nghyfrifiad 2010, nododd 89 o bobl eu bod yn tarddu o linach "Bannock", 38 "gwaed-llawn".
Mae gan lwyth Paiute y Gogledd hanes hir o fasnachu gyda llwythau cyfagos. Yn y 1700au, roedd y grwpiau yn nwyrain Oregon yn masnachu gyda'r llwythau brodorol i'r gogledd, a oedd erbyn 1730 wedi meistroli ac yn berchen ceffylau. Yng nghanol y 18g, datblygodd rhai grwpiau ddiwylliant y ceffyl a gwahanu oddi wrth y gweddill, gan ddod yn 'llwyth Bannock'. Rhoddodd y ceffyl y gallu iddynt deithio ymhellach ac yn gynt, o Oregon i ogledd Nevada, de Idaho, a gorllewin Wyoming . Fe wnaethant deithio oddi yno ar Lwybr Bannock i Montana a Chanada i hela bual a byfflo.
Yn draddodiadol mae'r Bannock wedi gwneud crochenwaith, offer o gyrn defaid mynydd, ac yn cario bagiau o groen eog. Mae eu petroglyffau'n dyddio'n ôl cyn i'r Ewropeiaid orchfygu eu gwlad, ac fe wnaethant drosglwyddo eu dyluniad geometrig i waith gleiniau gwydr. Ar gyfer cludiant dros ddŵr, gwnaethent rafftiau TULE allan o frwyn. Cyn diwedd y 19g, roedd pobl Bannock yn pysgota am eog ar Afon Snake yn Idaho ac yn yr hydref, roeddent yn hela'r byfflo. Roedd crwyn y byfflo'n cael eu defnyddio ganddyn nhw i greu tipis.
Mae'r Bannock yn amlwg yn hanes America oherwydd Rhyfel Bannock 1878. Ar ôl y rhyfel, symudodd y Bannockiaid i Neilldir Indiaidd Fort Hall, Idaho gyda llwyth y Northern Shoshone ac yn raddol unodd y ddau lwyth. Heddiw fe'u gelwir yn Shoshone-Bannock.
Yng Nghyfrifiad 2010, nododd 89 o bobl eu bod yn tarddu o linach "Bannock", 38 "gwaed-llawn". Mae 5,315 o bobl wedi'u cofrestru yn Llwythau Shoshone-Bannock yng Ngwarchodfa Fort Hall, ac mae eu dinasyddion i gyd wedi'u dynodi'n "Shoshone-Bannock".